Achlysur
Cardiau Cerrig Milltir Babi (Merch)
Cardiau Cerrig Milltir Babi (Merch)
Couldn't load pickup availability
Cardiau Cerrig Milltir Babi | Baby Milestone Cards 👶🏻
50 o gardiau lliwgar a phatrymog i gipio a dathlu’r cerrig milltir arbennig ym mlwyddyn gyntaf eich babi! O gyhoeddi’r enedigaeth, ymlaen trwy’r camau cyntaf amrywiol hyd at ddigwyddiadau’r flwyddyn. Mae’r cardiau yma yn lot o hwyl i’r teulu cyfan defnyddio.Â
Mae’r pecyn yma yn cynnwys:
- 3 cerdyn cyflwyno babi / dychwelyd adref
- 13 o gardiau oedran: wythnos/misol hyd at flwydd
- 1 cerdyn diwrnod cofrestru
- 1 cerdyn diolch
- 11 o gardiau i gofnodi cerrig milltir amrywiol e.e.. eu dant cyntaf, cerdded, bwyta bwyd!
- 6 o gardiau i ddathlu achlysuron amrywiol y flwyddyn e.e.. Pasg / Calan Gaeaf / Nadolig / Sul y Mamau / Sul y Tadau.
- 7 o gardiau i’w haddasu at unrhyw achlysur (cyfle i’w ddefnyddio ar ôl blwyddyn oed os dymunwch!)
Mae yna le ar rhai i ychwanegu oedran, dyddiad, a/neu eiriau o’ch dewis!Â
Mae’r cardiau yma wedi’u hargraffu ar gerdyn sidan esmwyth 250gsm un ochrog sy’n addas i fabanod. Mae’r cardiau yn dod mewn bocs cardfwrdd i’w gadw yn saff – ac sy’n hawdd i’w bostio!
Anrheg berffaith ar enedigaeth babi newydd, anrheg parti bwmp neu ar gyfer eich babi newydd chi!Â
----------------------------------------------------------------------------------
Fe greais y cardiau yma i ddefnyddio gyda fy merch fach– Miri Greta! Yr oeddwn wrth fy modd yn defnyddio’r cardiau yma i gipio’r camau cyntaf arbennig i’w drysori am byth.🩷
Diolch, Katie-Ann xxÂ
Care Instructions
Care Instructions
-MACHINE WASH AT 30 DEGREES
-DO NOT BLEACH
-LOW TUMBLE DRY
-COOL IRON
-DO NOT DRY CLEAN
-WASH DARK COLOURS SEPERATLEY






























